08/02/2010
Mick Bates - "rhyddhau o'i ddyletswyddau"
Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Mick Bates wedi cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau meinciau blaen yn dilyn honiadau ei fod wedi ymosod ar barafeddyg.

Gydag ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r mater, fe ddywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn datganiad:

“Ar ôl sgwrs rhwng Kirsty Williams a Mick Bates, maen nhw wedi cytuno y bydd yn cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau meinciau blaen ac o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynaladwyedd.

“R’yn ni wedi hysbysu Bwrdd Iechyd y Brifysgol a’r Gwasanaeth Ambiwlans y bydd y blaid a Mick yn cydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliadau.”


Cwyn

Fe ddaeth yn amlwg ddoe bod cwyn wedi ei gwneud yn erbyn gwleidydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl digwyddiadau ar noson feddw yng Nghaerdydd.

Yn ôl adroddiadau, roedd yr Aelod Cynulliad 62 oed wedi taro ei ben, ac fe gafodd ambiwlans ei galw i’w drin. Cafodd heddwas ei alw i’r ambiwlans, ond ni chafodd yr AC ei arestio.


Annerbyniol

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gafodd cynllun peilot ei lansio gan Lywodraeth y Cynulliad i osod camerâu cylch cyfyng mewn pedair adran ddamweiniau ac achosion brys, yn ogystal â phump ambiwlans yng Nghaerdydd.

“Mae’n annerbyniol bod staff y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu trais ac ymddygiad ymosodol bwriadol wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau beunyddiol yn gofalu am gleifion”, meddai’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart adeg y lansiad.

“Bydd cyflwyno’r camerâu teledu cylch cyfyng yn helpu i gael rhagor o dystiolaeth er mwyn cefnogi erlyniadau a gweithredu fel arf ataliol, gan wneud i bobol feddwl ddwywaith cyn cam-drin staff.”


Ymchwiliad

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater.

“Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i’r digwyddiad honedig yng nghanol dinas Caerdydd am 3.00am ar 22 Ionawr 2010.

“Mae hi’n dal yn rhy gynnar i wneud sylw pellach ar y mater,” meddai.




Anfon at ffrind