08/02/2010
Ysgol gyfun newydd i Ddyffryn Tywi
Heddiw, mae disgwyl i Gyngor Sir Gâr ddweud yn lle maen nhw’n bwriadu codi ysgol uwchradd newydd yn Nyffryn Tywi.

Y pnawn yma, mae’r Cyngor yn cyfarfod â llywodraethwyr ysgolion dwyrain y sir, sef ardaloedd Dinefwr a Chwm Gwendraeth, er mwyn trafod cynllun i ail-strwythuro addysg uwchradd yn y sir.

Fel rhan o’r cynllun, sy’n werth £60m, mae bwriad i adeiladu un ysgol newydd yn lle ysgolion presennol Tre Gib yn Llandeilo a Phantycelyn yn Llanymddyfri.


Safle dadleuol?

Y gred oedd y byddai’r ysgol newydd yn cael ei chodi hanner ffordd rhwng y ddwy ysgol bresennol, rhywle yng nghyffiniau pentre’ Llangadog.

Ond, o ganlyniad i astudiaeth a gomisiynwyd gan y Cynulliad, mae safle arall wedi dod i’r brig. Y safle hwnnw yw hen Faes y Sioe i’r de o Landeilo, lle’r oedd maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1996.

Roedd yr astudiaeth wedi edrych ar saith safle i gyd, wedi creu rhestr fer o dri, ac awgrymu un yn benodol.


O ystyried popeth...

Dywed y Cyngor bod yr adroddiad wedi ystyried pob math o ffactorau gan gynnwys pellteroedd teithio, adnoddau a chynaliadwyedd wrth edrych ar y safleoedd posib.

Bydd llywodraethwyr yr ysgolion yn Nyffryn Tywi yn clywed am yr argymhellion y pnawn ma. Disgwylir gwrthwynebiad o ardal Llanymddyfri


Newid yng Nghwm Gwendraeth

Mae’r un adroddiad hefyd wedi cynnig strwythur newydd ar gyfer Cwm Gwendraeth,

Yr awgrym yw i ddatblygu un ysgol uwchradd newydd yn lle ysgolion Maes yr Yrfa a Chwm Gwendraeth. Safle presennol Ysgol Maes yr Yrfa yw’r gorau i’w ddatblygu ar gyfer hyn, yn ôl yr adroddiad.

O dan y cynllun, mae Cyngor Sir Gar wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd o leihau nifer ysgolion cyfun Cwm Gwendraeth o bump i dair.


Cyfri’r ysgolion

* Dan y cynllun newydd, fe fyddai un ysgol uwchradd newydd yn Nyffryn Tywi;
* byddai un ysgol uwchradd newydd yng Nghwm Gwendraeth;
* byddai Ysgol Gyfun Dyffryn Aman yn aros fel mae, gan dderbyn buddsoddiad pellach i ehangu
Anfon at ffrind