08/02/2010
Papur dinas Caerdydd yn “dechrau codi tâl”
Fydd Y Dinesydd, papur bro dinas Caerdydd a'r cylch, ddim ar gael am ddim o fis Ebrill ymlaen.

Mae Gwilym Roberts, Cadeirydd y papur, wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i ddarllenwyr dalu 80c am bob copi – a hynny am nad yw’r grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg bellach yn clirio’r costau o’i gynhyrchu.

“Y ffaith amdani yw bod pob papur bro yn chwilio am arian,” meddai.

“Hyd yn oed ar ôl codi tâl, fyddwn ni ddim yn clirio’n costau i gyd. Fe fydd y papur yn dal i fod yn ddibynnol ar gyfraniadau.”


“Rhesymol”

Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn argraffu 3,000 o gopîau o’r papur sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

“Rydan ni eisiau cadw’r papur i fynd ac yn ceisio bod yn rhesymol am y peth. Fis Ebrill, gawn ni weld faint sydd â diddordeb go iawn,” meddai Gwilym Roberts.

“Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn, ond pwyllgor bach ydan ni. Rydan ni’n gwneud ein gorau ac yn frwdfrydig dros yr achos. Ond, rydan ni’n lwcus os oes dau neu dri’n dod i’r cyfarfod blynyddol.

“Dw i’n ffyddiog ac yn credu y bydd Y Dinesydd yn dal i fynd. Rydan ni am chwifio’r faner yng Nghaerdydd, y brifddinas,” meddai.


Derbyn Y Dinesydd

I dderbyn copi o bapur dinas Caerdydd o fis Ebrill ymlaen, mae modd:

• Talu £8 am ddeg rhifyn y flwyddyn a’i dderbyn trwy rwydwaith o ddosbarthwyr yn
y capeli, ysgolion, a sefydliadau eraill
• Tanysgrifio £15 yn flynyddol am ddeg rhifyn drwy’r post
• Prynu rhifynnau unigol yn un o nifer o siopau ar draws y ddinas


Anfon at ffrind