Fe fydd Ysgrifennydd Cymru yn gwneud “popeth” o fewn ei allu i hwyluso pasio mesur newydd ar yr iaith Gymraeg.
Dyna addewid Peter Hain wrth gyfarfod ag aelodau o fudiadau yn ymwneud â’r iaith heddiw.
Roedd y cyfarfod rhwng y gweinidog a Mudiadau Dathlu’r Gymraeg (sy’n cynrychioli 17 o sefydliadau a chymdeithasau, yn cynnwys yr Urdd a Chymdeithas yr Iaith) wedi ei drefnu i drafod y broses o drosglwyddo pwerau deddfu o Lundain i Gaerdydd.
Mae disgwyl y bydd y pwerau yn cael eu trosglwyddo ar ddydd Mercher 10 Chwefror.
“Diolch”
Yn dilyn y cyfarfod heddiw, dywedodd Sian Lewis fod y mudiadau yn diolch i Peter Hain am ei ran yn sicrhau trosglwyddo pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Rhoddodd Peter Hain ei sicrwydd y byddai ei swyddfa yn gwneud popeth o fewn ei allu i hwyluso pasio mesur newydd ar yr iaith Gymraeg” meddai Sian Lewis, “a hynny cyn gynted â phosib.”
Dywedodd eu bod hefyd wedi cael trafodaeth adeiladol ar sut i “sicrhau lles y Gymraeg yn yr hir dymor.”
'
Pwysig i bawb yng Nghymru'
Dywedodd Peter Hain fod y cyfarfod wedi bod yn un “adeiladol”.
“Dyma’r tro cyntaf i mi gwrdd â’r mudiadau, ac rwy’n croesawu’r cyfle i glywed eu barn am yr LCO iaith Gymraeg a’i gamau nesa’,” meddai.
“Mae’r Gorchymyn yn bwysig i bawb yng Nghymru - i’r rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg, i fusnesau, gweithwyr a’r diwydiant gwirfoddol.”
“Bydd y Gorchymyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor ddydd Mercher, ac wedi hynny, fe fydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru'r offer i gyflwyno ei Mesurau ei hun yn fuan.”
Anfon at ffrind