08/02/2010
Diarddel Aelodau Seneddol tros achos costau
Mae’r tri Aelod Seneddol sy’n wynebu achos cyfreithiol tros hawlio treuliau, wedi cael eu gwahardd dros dro o’r blaid Lafur.

Mae’r cyfan yn achos “cywilydd” i’r Prif Weinidog Gordon Brown, meddai arweinydd yr wrthblaid, David Cameron.

Ac fe aeth gam ymhellach na hynny, gan ddweud fod y modd y mae David Chaytor, Elliot Morley a Jim Devine yn ceisio defnyddio breintiau seneddol er mwyn osgoi cael eu herlyn, yn “ffiaidd”.

Mae David Cameron eisoes wedi diarddel yr Arglwydd Hanningfield o’r blaid Geidwadol – mae e hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dwyll yn ymwneud â’i gyfrifon.


Senedd, nid heddlu, i ymchwilio?

Mae cyfreithwyr y gwleidyddion yn dweud mai awdurdodau’r Senedd a ddylai fod wedi ymchwilio’r achos ac nid yr heddlu, oherwydd cyfraith ynglŷn â breintiau seneddol.

Ond mae llefarydd ar ran Gordon Brown wedi dweud nad yw’r Prif Weinidog ei hun yn credu bod hawliau seneddol yn cyfri mewn achosion fel hyn. Does dim un Aelod Seneddol goruwch y gyfraith, meddai.

Ac mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Harriet Harman, hefyd wedi dweud ei bod hi’n “fodlon” nad yw hawliau seneddol yn cyfri mewn achosion o ddwyn neu o dwyll.

Bydd y tri AS yn ymddangos o flaen Llys Dinas Westminster ar 11 Mawrth.


Anfon at ffrind